Apr 6, 2023
This podcast is part of the Healthy Bees Academy.
Find out more by visiting https://menterabusnes.cymru/healthy-bees-academy/
Mae'r podcast yma yn rhan o'r Academi Gwenyn Iach.
Dysgwch fwy trwy ymweld a https://menterabusnes.cymru/academi-gwenyn-iach/
Helo a chroeso i'r podlediad hwn sy'n rhan o fodiwlau hyfforddi Iechyd Gwenyn a ariennir trwy Gynllun Gwenyn Iach 2030. Lynfa Davies yw fy enw ac yn y bennod yma fe fydda i’n siarad gyda Mark McLaughlin o'r Uned Wenyn Genedlaethol i drafod eu gwaith.
Diolch am ymuno â ni heddiw Mark a chroeso i'n podlediad. Efallai y gallech chi ddechrau drwy gyflwyno eich hun a dweud ychydig wrthym am yr Uned Wenyn Genedlaethol (NBU).
Helo Lynfa, a diolch am fy ngwahodd. Ymunais â'r Uned Wenyn Genedlaethol yn 2015 fel Arolygydd Gwenyn Tymhorol yn gweithio’n bennaf yng Nglannau Mersi a Swydd Gaer. Cefais fy mhenodi'n Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol ar gyfer gogledd orllewin Lloegr ar ddechrau 2019. Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol yn rhan o'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, fel Arolygydd dw i’n gyfrifol am ganfod plâu a chlefydau y gwyddom amdanyn nhw yng Nghymru a Lloegr ac am ddelio â nhw. Rhennir Lloegr yn saith rhanbarth, pob un dan arweiniad Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol, Cymru yw'r wythfed rhanbarth, unwaith eto dan arweiniad Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol. Ar hyn o bryd mae 53 o swyddi Arolygydd Gwenyn Tymhorol drwy Gymru a Lloegr,.
Felly, eich rôl chi Mark, yw'r Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol ar gyfer gogledd orllewin Lloegr. Allwch chi ddweud wrthym ni beth mae hyn yn ei olygu a sôn ychydig hefyd am waith yr Arolygwyr Gwenyn Tymhorol sy'n gweithio gyda chi?
Gallaf siŵr. Rwy’n rheolwr rhanbarthol yn ogystal ag arolygydd maes ymarferol. Rwy'n delio â materion Adnoddau Dynol, hyfforddiant, cyllid a rheoli staff. Yn ogystal â rhoi arweiniad ynglŷn â blaenoriaethau a thasgau gweithredol, mae gen i gyfrifoldebau strategol eraill o fewn yr NBU hefyd. Neilltuir 10 cilomedr o sgwariau OS i’r Arolygwyr Gwenyn Tymhorol sydd wedyn yn dod yn ardal dan eu cyfrifoldeb. Maen nhw’n cysylltu â gwenynwyr ar y rhestr arolygu gan yr Uned Wenyn Genedlaethol. Y prif ffocws yw clefydau a phlâu y gwyddom amdanyn nhw fel y'u nodir gan ddeddfwriaeth ond maen nhw hefyd yn cynnig cyngor ar amrywiaeth eang o faterion cadw gwenyn yn ystod arolygiadau. Mae arolygwyr hefyd yn rhoi sgyrsiau i grwpiau cadw gwenyn ac yn cymryd samplau i’w dadansoddi yn y labordy pan fo angen. Does dim digon o arolygwyr i ymweld â phob gwenynwr yn flynyddol, felly mae'n rhaid i ni flaenoriaethu. Fodd bynnag, rydyn ni’n ymateb i alwadau pan fydd gan wenynwyr bryderon ynglŷn â chlefydau neu blâu egsotig.
Mae'n eithaf diddorol deall sut rydych chi'n blaenoriaethu eich gwaith, oherwydd mae gan rai rhanbarthau fwy o achosion o'r clefydau y gwyddom amdanyn nhw. Felly, beth mae'r Arolygwyr Gwenyn Tymhorol yn ei wneud yn y rhanbarthau hynny o gymharu â'r Arolygwyr Gwenyn sy'n brysur iawn yn sgil yr achosion?
Wel, mae'r rhestr maen nhw'n ei chael yn seiliedig ar risg. Felly, os bydd achos o glefyd, mae'n creu rhestr arolygu ehangach fyth. Fodd bynnag, er y gallai nifer yr achosion o glefyd fod yn isel mewn rhai ardaloedd, mae dyletswydd arnom o hyd i sgrinio am glefydau, oherwydd mae enghreifftiau o ardaloedd nad ydym wedi ymweld â nhw neu ardaloedd sy'n risg isel lle’r ydym wedi canfod clefydau mewn arolygiadau blaenoriaeth isel.
Iawn, felly ydi'r Arolygwyr Gwenyn yn symud o gwmpas i gefnogi eu cydweithwyr pan fydd achosion yn codi?
Ydym, rydyn ni’n annog cydweithio traws-ranbarthol. Er enghraifft, yn y gogledd, fy rhanbarth i, a'r gogledd ddwyrain mae cydweithio da iawn rhyngom gydag arolygwyr yn y gogledd orllewin yn cynorthwyo'r gogledd ddwyrain ac i'r gwrthwyneb. Rydyn ni hefyd yn helpu ein gilydd gyda digwyddiadau oherwydd arbedion maint, felly, yn hytrach na chynnal rhai digwyddiadau unigol ar gyfer y gogledd orllewin ac yna dyblygu digwyddiadau unigol ar gyfer y gogledd ddwyrain byddwn yn eu cyfuno ac yn cynnal un digwyddiad. Dim ond am resymau arbedion maint fel y dywedais i.
Ia, mae hynny'n gwneud synnwyr a dw i'n meddwl mai rhai o'r digwyddiadau yma y bydd llawer o wenynwyr yn gyfarwydd â nhw a hefyd yn ddiolchgar iawn amdanyn nhw. Ydi hynny'n rhywbeth rydych chi'n bwriadu parhau ei wneud a gwneud mwy ohono yn y dyfodol?
Ydi. Wel, y llynedd, yn y gogledd orllewin, fe wnaethon ni gynnal dau ddiwrnod Iechyd Gwenyn fel ymarfer ar y cyd â'r gogledd ddwyrain. Fe wnaethon ni hefyd gynnal digwyddiad olrhain y Gacynen Asia ar gyfer gwenynwyr Swydd Efrog ac, fel y dywedais o'r blaen, fe wnaethon ni gynnal Fforwm rhanbarthol ar gyfer gogledd Lloegr gyfan, ac roedd hwnnw'n ddigwyddiad ar y cyd hefyd. Eleni rydyn ni wedi nodi dyddiadau ar gyfer dau ddiwrnod Iechyd Gwenyn ar gyfer y gogledd orllewin, felly nes eu bod wedi'u cadarnhau, alla i ddim dweud yn bendant y byddan nhw’n cael eu cynnal gan fod yn rhaid i ni ddatrys materion presenoldeb a lleoliadau. Ond rydyn ni'n ceisio cynnal o leiaf dau'r flwyddyn.
Ia, ac yn sicr mae yna rai yn ein hardal ni hefyd ac mae gwenynwyr yn wirioneddol werthfawrogi'r cyfle i allu cael golwg ar rai crwybrau wedi’u heffeithio gan glefydau na fyddai cyfle iddyn nhw eu gweld fel arfer.
Felly, Mark, dw i’n yn deall eich bod chi hefyd yn rhan o’r Rhaglen Gwenynfeydd Sentinel i fonitro plâu a chlefydau egsotig. Felly, pa rai yw'r plâu a'r clefydau egsotig rydych chi'n poeni amdanyn nhw a pha mor debygol ydyn nhw o ddod i’r DU?
Mae’r Rhaglen Gwenynfeydd Sentinel yn anelu at ganfod plâu egsotig yn gynnar sef, gwiddon Tropilaelaps a chwilen fach y cwch. Mae'n anodd dweud yn bendant pa mor debygol ydyn nhw o gael eu cyflwyno i'r DU ond yn sicr mae'n risg uchel ac yn un sy’n cael ei chymryd o ddifrif. Felly, mae'n bwysig bod yn wyliadwrus a sicrhau bod gwenynwyr yn rhoi gwybod i’r Uned Wenyn Genedlaethol am unrhyw beth y maen nhw'n ei feddwl sy’n amheus. Mae chwilen fach y cwch yn yr Eidal ar hyn o bryd, ond nid yw Tropilaelaps yn Ewrop hyd y gwyddom. Mae symudiadau pobl a nwyddau yn gallu cynnig llwybr teithio, felly mae gennym Wenynfeydd Sentinel ger porthladdoedd a phwyntiau risg eraill. Er hynny, mae enghreifftiau o risg yn bodoli. Yn 2004, cafwyd hyd i chwilen fach y cwch ym Mhortiwgal mewn cyflenwad o frenhinoedd a chewyll wedi'u mewnforio. Fe'u dinistriwyd gan y Gwasanaeth Tollau cyn iddyn nhw gael cyfle i gyrraedd pen eu taith. Yma yn y DU, rydyn ni weithiau'n cael ein rhybuddio am heidiau sy'n cyrraedd porthladdoedd ar longau. Bu un digwyddiad o'r fath ym mis Mai 2022, pan gafwyd hyd i nyth o wenyn Asiaidd, rhai yn dal yn fyw, ar long gynwysyddion oedd wedi teithio o Asia. Y tro hwn, ni ddarganfuwyd gwiddon Tropilaelaps yn y sampl a anfonwyd i'r labordy ond mae'n pwysleisio’r ffaith bod y risgiau'n rhai go iawn.
Waw, mae’n swnio'n anghrediniol y byddai haid o wenyn yn cael eu trosglwyddo yn y ffordd yna.
Wel, Apis florea oedden nhw a dydyn nhw ddim yn creu nythod. Yr hyn wnaethon nhw oedd adeiladu crwybr ar ochr llong cynwysyddion ac fe gawson ni wybod yn ddiweddarach. Yn y pendraw, fe aethon ni i gael rhai samplau oherwydd i ddechrau roedden nhw'n meddwl mai haid o'r DU oedd wedi mynd ar y llong tra oedd hi yn y Porthladd. Ond wrth archwilio'n agosach, gwelsom eu bod yn dod o India lle mae Tropilaelaps yn bodoli.
Mae hynny'n hollol anhygoel, yn tydi?
Nid dyma'r unig un chwaith. Cysylltodd un o'r cymdeithasau a oedd wedi cael gwybod am Gapten llong oedd wedi cysylltu ag un o'r cymdeithasau dros y ffôn wrth fynd i mewn i un o'r porthladdoedd yn Lloegr, a dywedon nhw fod yna haid o wenyn. Meddyliodd y gymdeithas mai haid o wenyn y DU oedd rywsut wedi mynd ar y llong oedd yno ond wnaethon nhw ddim dod i’r golwg felly chawson ni byth wybod beth oedden nhw.
Waw, mae hynny'n risg go iawn yn tydi?
Mae'n risg go iawn, wyddoch chi, rhaid i ni fod yn wyliadwrus oherwydd dychmygwch, mae yna lawer o longau yn dod i mewn a wyddoch chi, llongau cynwysyddion o wledydd eraill, sy’n amlwg yn risg gan eu bod yn gallu dod â rhywogaethau ymledol neu hyd yn oed blâu egsotig y gwyddom amdanyn nhw.
Ia, a chwilen fach y cwch fyddai'r un sydd fwyaf tebygol o gyrraedd y DU? Ydi hynny'n gywir ai peidio?
Wel, mae fel unrhyw beth arall yn tydi, os ydyn ni'n mentro dweud yn bendant mai chwilen fach y cwch yw'r mwyaf tebygol, rydyn ni’n temtio ffawd a bod Tropliaelaps yn dod i mewn i’r wlad. Fel yr ydyn ni newydd ddweud, mae plâu egsotig yn cyrraedd ar longau. Mae angen mwy o wybodaeth ynghylch Tropilaelaps. Maen nhw'n credu nad yw Tropilaelaps yn gallu bwydo ar wenyn llawn dwf ond maen nhw'n symud i ardaloedd oerach yn Asia lle maen nhw’n cael seibiant o ran dodwy wyau, er mae’n rhaid cadarnhau hynny. Mae angen gwaith pellach dw i'n credu, i ddarganfod a yw’r gwiddon yn esblygu mewn unrhyw ffordd fel eu bod yn gallu dechrau bwydo ar y gwenyn llawn dwf. Eto, dim ond dyfalu ydw i. Dw i’n gwybod bod gan Dr Samuel Ramsey ddarlith ar YouTube i'r perwyl hwnnw, lle mae'n rhoi darlith dda yn egluro lledaeniad Tropilaelaps yn Asia.
Ia, a dw i'n meddwl ei bod hi'n werth dweud wrth ein gwrandawyr, sydd efallai ddim yn gyfarwydd â Tropilaelaps. Gwiddonyn bach ydi o sy'n debyg iawn i'r gwiddonyn Varroa mewn sawl ffordd. Mae ganddo gylch bywyd tebyg ac ar hyn o bryd dydi o ddim yn y DU, felly yn bendant mae’n un nad ydyn ni ei eisiau yma.
Yn bendant.
Efallai y byddwn ni'n dod yn ôl i siarad am rai o'r plâu egsotig a allai fod o risg i ni ond cyn i ni wneud hynny efallai y gallech chi siarad am y Rhaglen Gwenynfeydd Sentinel y mae'r Uned Wenyn Genedlaethol yn ei chyflwyno a sut y gall gwenynwyr gymryd rhan ynddi?
Wel, mae gennym ni ddwy raglen Gwenynfeydd Sentinel sy’n cael eu cynnal ochr yn ochr. Y gyntaf yw'r Rhaglen Gwenynfeydd Sentinel Wirfoddol lle mae gwenynwyr yn archwilio i weld a oes plâu egsotig yn ogystal ag anfon samplau i'r labordy i'w dadansoddi ddwywaith y flwyddyn. Maen nhw'n cael popeth sydd ei angen arnyn nhw felly does dim cost i'r gwenynwr. Mae'r samplau fel arfer yn ddarnau mân o’r driniaeth Varroa neu o lawr solet y cwch. Maen nhw hefyd yn cael cyflenwad o drapiau chwilen fach y cwch. Ar hyn o bryd mae gennym 130 o Wenynfeydd Sentinel Gwirfoddol ar draws Cymru a Lloegr ac yn ystod tymor 2022-2023, anfonwyd 157 o samplau i'w dadansoddi. Ein nod yw cael o leiaf 15 o Wenynfeydd Sentinel Gwirfoddol ym mhob un o'r wyth rhanbarth. Yna mae gennym yr Uwch Raglen Gwenynfeydd Sentinel ac mae’r Arolygydd Gwenyn yn ymweld â nhw deirgwaith yn ystod y tymor i archwilio rhag ofn bod plâu egsotig ac i gymryd samplau. Fel arfer, lleolir Uwch Wenynfeydd Sentinel ger y pwyntiau risg uchaf fel porthladdoedd ac un o’r meini prawf pwysig ar gyfer dewis yw mynediad, rhag ofn bod y gwenynwr ddim ar gael. Yn aml gwneir trefniadau i ganiatáu i arolygwyr gael mynediad heb fod angen i'r gwenynwr fod yn bresennol. Os oes gan wenynwr ddiddordeb mewn cymryd rhan, dylai gysylltu â'r Arolygydd Gwenyn Tymhorol neu Ranbarthol i drafod ymhellach.
Felly, gyda'r Gwenynfeydd Sentinel Gwirfoddol, sawl gwaith y flwyddyn ydych chi'n disgwyl i'r gwenynwr anfon mewn samplau?
Wel, o leiaf dau sampl. Dau sampl y tymor yw'r targed. Felly, ar gyfer y Gwenynfeydd Sentinel Gwirfoddol, byddem yn gofyn am sampl tua mis Mehefin, ym mis Mehefin, a hefyd ym mis Medi.
Ac, ydyn nhw'n llythrennol ddim ond yn gorfod sgubo beth sydd ar lawr y cwch gwenyn, os ydyn nhw ar lawr solet, neu ddim ond casglu beth sydd ar y darn Varroa ?
Ia. Mae'n broses gymharol syml ac mae yna amlenni rhagdaledig i anfon y samplau yma i'r labordy, ac yna unwaith y bydd y labordy yn eu derbyn, bydd y labordy wedyn yn archwilio'r samplau hynny hyd yn oed i lefel microsgopig i chwilio am unrhyw dystiolaeth o blâu egsotig. Felly, gallai fod yn wyau neu’n ddarnau o goes neu ddarnau o antena, unrhyw beth a fyddai'n dangos bod risg o bla egsotig neu fod pla egsotig yn bresennol. Pe bai risg, byddem wedyn yn cael ein rhybuddio a byddem yn gorfodi camau i atal gweithgareddau a byddem yn ail-archwilio'r wenynfa.
Felly, Mark, a oes angen i wenynwyr allu adnabod unrhyw beth eu hunain neu ddim ond sgubo'r malurion oddi ar y llawr neu oddi ar y darn Varroa a’u hanfon?
Wel, ia. Mae'r malurion yn bwysig iawn gan eu bod nhw’n cael eu dadansoddi yn y labordy i lefel microsgopig. Felly, mae hynny'n waith pwysig iawn gan fod hynny wedyn yn ychwanegu haen arall o archwilio, os mynnwch chi, at y broses samplo go iawn. Ond mae angen i'r gwenynwyr wybod beth yw'r arwyddion os oes chwilen fach y cwch a Tropilaelaps mewn gwirionedd yn y gytref, lle i edrych a beth i chwilio amdano. Pan fyddan nhw’n cael yr offer am y tro cyntaf, dylai Arolygwr Gwenyn Tymhorol fynd i'r wenynfa gyda nhw ac egluro’n union beth i chwilio amdano a sut i archwilio am blâu egsotig.
Ydi hi’n bosibl i unrhyw wenynwr wirfoddoli eu gwasanaethau neu ydych chi’n rhyw fath o ddewis pobl?
Wel, cyfuniad o'r ddau mewn gwirionedd. Os oes gennym ni ardal lle mae risg o blâu egsotig, er enghraifft, porthladdoedd. Dywedwch fod gennym borthladd, a bod 'na ddim Gwenynfeydd Sentinel wrth ymyl y porthladd hwnnw, neu fod gwenynwyr y Gwenynfeydd Sentinel sy’n anfon samplau, yn penderfynu'n sydyn na allan nhw fod yn rhan o’r cynllun, eu bod nhw am roi'r gorau i gadw gwenyn neu rywbeth. Byddwn ni, a'r arolygydd lleol yn holi o gwmpas ac os bydd unrhyw leoliadau addas lle mae gwenynfeydd, wyddoch chi, byddwn yn gofyn i bobl os hoffan nhw gymryd rhan. Gall gwenynwyr gysylltu â ni a chynnig eu gwasanaethau ond mae'n rhaid i ni dargedu ardaloedd a gallwn ni ddim cael gormod o Wenynfeydd Sentinel Gwirfoddol. Y cyfan rydyn ni'n ei wneud, ac mae'r labordy’n ei wneud, yw anfon pecynnau allan a dadansoddi. Mae cydbwysedd rhwng y niferoedd ac effeithlonrwydd y cynllun. Felly, rydyn ni'n croesawu pobl sydd gallai fod yn rhy agos at Wenynfa Sentinel Wirfoddol arall. Felly, mae'n rhaid i ni bwyso a mesur y sefyllfa.
Ia wrth gwrs. Nawr, o'n profiadau hyd yma, mae'n ymddangos mai'r Gacynen Asia yw ein bygythiad mwyaf uniongyrchol. Efallai y gallech chi egluro i'n gwrandawyr pam fod y Gacynen Asia yn fygythiad i'n gwenyn, a beth all gwenynwyr ei wneud?
Wel, mae'n werth sôn nad yw’r Rhaglen Gwenynfeydd Sentinel yn targedu’r Gacynen Asia yn benodol ond mae rhai gwenynwyr sy'n cymryd rhan yn monitro ei phresenoldeb. Mae’r Gacynen Asia yn rhywogaeth ymledol yn hytrach na phla. Mae'n targedu gwenyn mêl a phryfed brodorol eraill i fwydo'r larfa. Yn ogystal â lladd gwenyn unigol, os yw’r Gacynen Asia yn bresennol mewn gwenynfa gall amharu ar y ffordd mae’r gwenyn yn chwilio am fwyd nes bod y gytref yn diflannu. Dylai gwenynwyr fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod os gwelan nhw’r rhain drwy’r ap Asian Hornet/Cacynen Asia, y gellir ei lawrlwytho am ddim. Os ydyn nhw mewn sefyllfa i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd byddai hynny'n wych hefyd. Rydyn ni’n argymell chwilio am y Gacynen Asia yn y gwenynfeydd, ar eiddew neu ffrwythau sydd wedi disgyn hefyd.
Yn ddiddorol, yn rhan olaf 2022 doedd hi ddim yn ymddangos bod gennym lawer o Gacwn Asia eleni, y llynedd mae'n ddrwg gen i, sy'n dipyn o syndod i mi wrth edrych ar brofiadau Jersey lle mae’n ymddangos bod llawer iawn o nythod ac maen nhw'n gwneud gwaith rhagorol i gael gwared ar y rheini hefyd. Pam ydych chi'n meddwl na wnaeth y Gacynen Asia groesi i'r DU?
Wel, mae dadansoddiad o nyth Rayleigh yn awgrymu nad oedd y frenhines yn ferch i unrhyw un o'r breninesau sydd wedi eu gweld yn y blynyddoedd blaenorol yma. Felly mae'n debyg iddi gael ei chario drosodd o Ffrainc. Ond mae Jersey gymaint yn nes at Ffrainc nag ydyn ni. Dw i wedi bod i Jersey ac maen nhw'n dweud eu bod nhw'n dod o hyd i’r Gacynen Asia ar y cychod pysgota ac maen nhw hyd yn oed wedi gweld rhai’n gorffwys ar frigiadau creigiog, felly, maen nhw'n gallu hedfan o Ffrainc i Jersey. Yn achos y DU rydyn ni’n amau bod y Gacynen Asia, ar adegau, wedi cael ei chario drosodd gan wyntoedd deheuol, mae'n debyg bod Dungeness yn un o'r achosion hynny, tra mai gwenyn gwryw oedden nhw mewn gwirionedd a gafodd eu cario drosodd. Ond, mae pellter rhyngom ni a Ffrainc a dw i'n meddwl eu bod nhw wir angen rhyw fath o ffordd i’w cario drosodd. Pam roedd cyn lleied y llynedd, dw i ddim yn gwybod, dydyn ni ddim yn gwybod. Rydyn ni ond yn gobeithio ein bod ni wedi dod o hyd i bob un oedd yno.
Ydw, wrth gwrs, dim ond hyn a hyn o wybodaeth sy gennym ni. A beth am chwilod bach y cwch a Tropilaelaps, pam eu bod nhw’n achosi'r fath bryder i ni?
Wel, gall cytrefi lle mae nifer fawr o chwilod bach y cwch yn bresennol gael eu dinistrio neu gallan nhw hedfan i ffwrdd i rywle arall ac mae'r chwilod yn bwyta'r mag a'r storfeydd, gan ysgarthu yn y mêl, ac achosi iddo eplesu. Felly, mae’n tarfu llawer ar y gytref ac ar y gwenynwr ei hun. Mae cytrefi gwannach yn arbennig o agored i niwed, felly gallai’r cnewyllyn neu broses baru’r frenhines gael eu heffeithio'n ddifrifol. Gallai mêl a’r llofftydd mêl cyn eu tynnu fod mewn perygl hefyd. Mae chwilen fach y cwch yn gallu effeithio ar boblogaethau gwenyn mêl gwyllt a chacwn hefyd. Felly, nid gwenyn mêl yn unig yr ydyn ni’n poeni amdanyn nhw. Mae gwiddon tropilaelaps yn bryder mawr gan eu bod nhw’n lledaenu clefydau ac yn gwanhau cytrefi, yn debyg iawn i effeithiau pla Varroa, ond mae ganddyn nhw’r potensial i fod yn fygythiad mwy fyth, gan eu bod nhw’n atgynhyrchu'n gyflym. Gallen nhw hefyd gael effaith ddifrifol ar gytrefi gwyllt, yn union fel chwilen fach y cwch.
Rydych chi wedi gwneud pwynt diddorol, am eu heffaith bosibl ar gytrefi gwyllt a hefyd eu heffaith ar rai o'n rhywogaethau gwenyn gwyllt hefyd. Rydyn ni’n tueddu i ganolbwyntio fwyaf ar wenyn mêl ond mae'n frawychus meddwl y gallen nhw hefyd gael effaith ddifrifol ar rai o'n rhywogaethau gwenyn gwyllt eraill.
Ia, hynny yw, dyna pam mae dod o hyd i’r plâu yma’n gynnar mor bwysig oherwydd unwaith maen nhw'n mynd i mewn i’r ardaloedd, wyddoch chi, maen nhw'n dod i gysylltiad â’r gwenyn ffyrnig a'r heidiau sydd wedi dianc o’r cychod a mynd i mewn i lofftydd neu simneiau pobl neu pa le bynnag, ac mae'n anodd iawn wedyn i ni allu eu rheoli a chael gwared arnyn nhw. Fe allwn ni fynd at y gwenynwyr sydd wedi'u cofrestru ar BeeBase ond efallai bod plâu niferus mewn cytrefi gwyllt na wyddon ni amdanyn nhw. Felly, dyma beth yw pwrpas yr holl gynllun, ceisio eu cael yn gynnar a cheisio delio â nhw cyn iddyn nhw gael cyfle i ddosbarthu eu hunain yn ehangach.
Ia wrth gwrs. Nawr rydyn ni i gyd yn gwybod am freninesau sy'n cael eu mewnforio i'r DU ac rydyn ni wedi siarad ychydig am y posibilrwydd fod heidiau’n dod i mewn ar longau, oes yna gynhyrchion cychod gwenyn eraill sy'n cael eu mewnforio a allai hefyd achosi risg i'n gwenyn drwy gludo rhai o'r plâu a'r clefydau yma?
Wel mae angen tystysgrif iechyd ar fewnforion mêl ac mae achosion mynych o fewnforio mêl yn anghyfreithlon gyda'r llwythi’n cael eu hatal gan y Gwasanaeth Tollau. Ar rai achlysuron mae’r Gwasanaeth Tollau wedi atal mêl oedd yn dal yn y crwybr, weithiau gyda gwenyn yn dal i hedfan o amgylch y cerbyd. Yn amlwg iawn, mae’r math yma o beth yn risg o safbwynt clefydau a phlâu egsotig i'r DU. Mae'n werth nodi nad yw mewnforio crwybr cŵyr yn cael ei ganiatáu gan ei fod yn gallu cario afiechyd. Caniateir mewnforio cŵyr gwenyn yn fasnachol, ond mae angen hysbysu’r awdurdodau swyddogol ynghylch mewnforion o'r fath ymlaen llaw, yn ogystal â rhoi manylion am sut mae'r mêl yn cael ei brosesu ac ati. Mae bwydo mêl sy’n dod o ffynhonnell gyfreithiol i wenyn mêl hefyd yn risg oherwydd gall gynnwys pathogenau gwenyn. Weithiau, mae’r cyhoedd yn bwydo mêl sy’n dod o ffynhonnell fasnachol i wenyn sy'n ymweld â'r ardd, yn llawn bwriadau da, heb wybod y risgiau. Mae mewnforio triniaethau sydd heb eu hawdurdodi'n anghyfreithlon yn y DU yn bryder hefyd ac mae achosion lle’r oedd triniaethau heb eu hawdurdodi o du allan i'r DU wedi cael eu hysbysebu ar safleoedd arwerthu ar-lein. Efallai na fydd gan driniaethau o ffynonellau anghyfreithlon yr un safonau ansawdd angenrheidiol neu efallai eu bod yn ffug ac yn cynnwys sylweddau anhysbys a allai fod yn niweidiol. Dim ond triniaethau sydd wedi’u hawdurdodi i gael eu defnyddio yn y DU ac wedi’u gwerthu gan ffynonellau dibynadwy y dylai gwenynwyr eu defnyddio.
Ia, dyna bwynt diddorol rydych chi'n ei godi. Doeddwn i ddim wedi meddwl am fewnforio triniaethau yn anghyfreithlon sydd heb eu hawdurdodi yn y DU, ond ia, fe alla i ddychmygu bod hynny'n broblem eithaf eang.
Ydi, pan ddaw i'n sylw, neu pan rydyn ni'n gweld rhywbeth felly, byddwn yn cymryd camau i dynnu sylw'r Awdurdodau Meddyginiaethau Milfeddygol a byddwn yn ceisio sicrhau bod yr hysbysebion yn cael eu tynnu oddi ar-lein oherwydd dydyn ni ddim eisiau gweld - triniaethau yn enwedig - yn cael eu hanfon i mewn o dramor sydd heb eu hawdurdodi neu heb olrhain eu hansawdd.
Ia, a pha gyngor ymarferol y gallwn ni ei roi i wenynwyr i'w helpu i fabwysiadu'r arferion sy'n lleihau'r risg o blâu a chlefydau egsotig sy'n dod i mewn i'r wlad?
Wel, dim ond gwenyn a chynhyrchion eraill sydd wedi'u mewnforio'n gyfreithiol y dylen nhw eu prynu. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod sut mae’r plâu egsotig y gwyddom amdanyn nhw yn edrych. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â symptomau'r plâu a'r clefydau y gwyddom amdanyn nhw yma. Dw i'n argymell gwneud archwiliadau rheolaidd sy’n canolbwyntio’n unig ar chwilio am y rhain. Ceisiwch annog gwenynwyr lleol i gofrestru ar BeeBase. Os bydd achos yn codi, mae'n hanfodol ein bod yn gwybod ble mae gwenynfeydd i helpu i’w rheoli a chael gwared ar y plâu neu'r clefydau. Hefyd dylech archwilio unrhyw Freninesau a gaiff eu mewnforio a rhoi gwybod am unrhyw bryfed, larfa, wyau amheus sy'n bresennol gyda'r gwenyn yn y cewyll i'r Uned Wenyn Genedlaethol. Os oes unrhyw beth amheus i’w weld, yn amlwg peidiwch ag agor unrhyw un o'r cewyll nes eich bod wedi cael cyfle i gael cyngor gennym ni. Rhaid i chi ddilyn y gofynion i anfon y cewyll, y gwenyn sy’n gofalu am y frenhines a’r deunydd pecynnu i gael eu harchwilio gan y labordy. Dyma haen arall o archwilio ar gyfer canfod y plâu egsotig yma’n gynnar. Hefyd os yw gwenynwr yn gwybod am unrhyw risg mynediad na fyddem efallai'n ymwybodol ohono cysylltwch â'r Arolygydd Gwenyn Tymhorol neu Ranbarthol i'w drafod.
Trwy risgiau mynediad ychwanegol ydych chi'n golygu dod yn ymwybodol o rywun yn lleol sy'n mewnforio pethau?
Wel, gall pobl fewnforio'n gyfreithlon ac mae'n annhebygol, wel, sut fyddech chi'n gwybod, eu bod nhw'n mewnforio'n gyfreithlon oherwydd maen nhw'n gwneud hynny drwy'r gofynion masnachol. Roeddwn i’n meddwl yn fwy penodol, er enghraifft, am unrhyw weithgareddau masnachol newydd sydd wedi dechrau. Cwmnïau newydd sy’n mewnforio ffrwythau a llysiau ar raddfa fawr lle gallai chwilen fach y cwch gael ei chario i mewn i'r wlad yn eu sgil. Weithiau mae pobl yn cysylltu â ni i roi gwybod am bobl sy'n prosesu mêl ar raddfa fawr ac yna'n dweud wrthym fod gweithgareddau prosesu masnachol newydd ddechrau ar stad ddiwydiannol yn agos atyn nhw. Felly, y math yna o beth. Dydyn ni ddim yn manylu oherwydd bod gwenynwyr yn gwybod beth yw'r risgiau ac os ydyn nhw'n meddwl bod rhywbeth yn risg, cysylltwch â ni ar bob cyfri i ddweud, ydych chi'n gwybod am hyn? Neu, ydych chi'n gwybod bod y peth a’r peth yn cael ei fewnforio? Oherwydd, weithiau rydyn ni'n cael gwybod am achosion o werthu mêl ar ochr y ffordd y maen nhw'n amau sydd wedi cael ei fewnforio ond heb fynd trwy'r archwiliadau priodol, wyddoch chi, ar raddfa fawr. Felly, yr hyn rydyn ni'n ei wneud, yw croesawu gwybodaeth - os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gwybod am risg nad ydyn ni'n gwybod amdano, gadewch i ni wybod.
Ia, mae hynny'n gyngor da. Felly, rydyn ni wedi canolbwyntio heddiw ar y plâu y gwyddon ni amdanyn nhw’n barod. Oes yna unrhyw blâu neu glefydau eraill sydd wedi dod i'ch sylw yn yr NBU, sy’n cael eu monitro gennych chi?
Wel, rydyn ni'n canolbwyntio mewn gwirionedd ar y ddau bla y gwyddom amdanyn nhw a'r ddau glefyd y gwyddom amdanyn nhw sef Clefyd Americanaidd y Gwenyn (CAG) a Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn (CEG). Hefyd, y rhywogaeth ymledol, Cacynen Asia. Ond rydyn ni’n ymwybodol o'r risg o fewnforio gwenyn anfrodorol a chacwn eraill a allai ddod i mewn i'r wlad trwy lwybrau masnach. Rydyn ni hefyd yn cadw llygad am fygythiadau eraill fel gwenyn o Affrica a allai ddod yma yn sgil mewnforio breninesau’n anghyfreithlon. Cawn gefnogaeth ragorol gan wyddonwyr yr Asiantaeth Ymchwil Bwyd a'r Amgylchedd, a elwir bellach yn FERA Science Limited, felly os bydd gennym unrhyw bryderon gallwn, a byddwn, yn anfon samplau atyn nhw i'w harchwilio a'u hadnabod.
Mae hynny'n ddiddorol iawn eich bod chi'n sôn am fygythiad gwenyn o Affrica. Mae hynny eto, yn rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi’i ystyried. Felly, ydi pobl wir yn dod â breninesau yn anghyfreithlon i mewn o Affrica?
Nac ydyn, ond beth fydden ni'n ddweud yw hyn - dydyn ni ddim yn gwybod, felly rydyn ni’n wyliadwrus. Rydyn ni'n cadw golwg.
Ia. Ac mae gennym ni gwpl o rywogaethau gwenyn sydd wedi dod yn eithaf cyffredin yn y DU fel y gacynen y coed a'r wenynen Iorwg. Felly, fyddech chi'n ystyried bod y rhain yn fygythiad gan eu bod yn rhywogaethau anfrodorol?
Wel, dw i'n credu eu bod nhw wedi hen sefydlu erbyn hyn, mae cacynen y coed a'r gwenyn Iorwg wedi hen sefydlu. Rydyn ni'n cael llawer o alwadau ynghylch cacwn y coed bob blwyddyn felly, maen nhw yma. Mae fel unrhyw rywogaeth arall. Hynny yw, mae Gwenyn Ewropeaidd wedi bod yn symud i fyny'r wlad i ardaloedd newydd oherwydd ei bod yn mynd yn gynhesach. Dydyn ni ddim yn ystyried bod y rhain yn fygythiad oherwydd eu bod nhw bellach yn endemig. Dydyn ni ddim yn monitro’r rhain o gwbl.
Na, mae hynny'n ddiddorol iawn Mark, ac mae’n ddifyr dros ben clywed am beth o'r gwaith rydych chi'n ei wneud o fewn yr Uned Wenyn Genedlaethol. Mae'n bendant yn gwneud i mi deimlo’n fwy hyderus o gael gwybod bod y rhaglenni yma’n parhau i fonitro a diogelu, gobeithio, dyfodol ein mentrau cadw gwenyn ac wrth gwrs, mae newid hinsawdd yn cyflwyno rhai risgiau a chyfleoedd diddorol i ni yn y DU, ac wrth gwrs yn fyd-eang hefyd, a bydd yn ddiddorol gweld a fydd gennym fwy o achosion o wahanol rywogaethau ymledol o ganlyniad i newid hinsawdd. Felly, y cyfan sydd gen i ar ôl i’w ddweud yw diolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn ein podlediad heddiw ac rydyn ni’n dymuno tymor llwyddiannus i chi yn 2023 gan obeithio na fydd llawer iawn o glefydau.
Diolch yn fawr, diolch.