Preview Mode Links will not work in preview mode

Menter a Busnes


Apr 6, 2023

This podcast is part of the Healthy Bees Academy.
Find out more by visiting https://menterabusnes.cymru/healthy-bees-academy/

Mae'r podcast yma yn rhan o'r Academi Gwenyn Iach.
Dysgwch fwy trwy ymweld a https://menterabusnes.cymru/academi-gwenyn-iach/

 

Helo a chroeso i’r podlediad hwn a fydd yn cyfrannu at ein modiwl Hyfforddiant Iechyd Gwenyn ar reoli faroa. Lynfa Davies ydw i ac yn y bennod hon byddaf yn sgwrsio â’r Athro Stephen Martin o Brifysgol Salford am ei waith ar nodweddion ymwrthedd naturiol i faroa ymysg gwenyn mêl ac, a ellir, wrth luosogi’r nodweddion hyn, gyfrannu at strategaethau rheoli ar gyfer faroa. Diolch ichi am ymuno â ni heddiw, Stephen, a chroeso i’n podlediad. Efallai hoffech chi gyflwyno eich hun a dweud gair neu ddau am gefndir eich ymchwil.

Wel diolch yn fawr ichi Lynfa am roi’r cyfle hwn imi siarad am ein gwaith ac rwyf wedi bod yn ymchwilio i faroa nawr am dros 30 mlynedd. Dechreuais yn yr Uned Wenyn Genedlaethol a bûm yno am dros ddegawd, a dyma lle dysgais i’r pethau sylfaenol.  Fe wnaethon ni lawer o waith ar atgynhyrchiad faroa ac i geisio creu offer monitro ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe wnaethon ni lwyddo i ddatrys problem eithaf mawr sef beth yn union oedd yn lladd y nythfeydd. Fel y digwydd, nid y gwiddon yn uniongyrchol oedd ar fai ond yn hytrach eu cysylltiad â’r firysau, y firws adenydd wedi’u hanffurfio yn benodol, sy’n awr wedi dod yn fath o norm. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn ymwneud â deall sut mae’r firws yn atgynhyrchu, ei effaith ar wenyn mêl ac mae’r cyfan wedi bod braidd yn besimistaidd fel yna. Ond yn ddiweddar, rydyn ni wedi llwyddo i symud at destun llawer mwy diddorol ac mae’r cyfan wedi arwain ymlaen at hyn. O safbwynt ceidwaid gwenyn, mae’n ymwneud â sut mae’r gwenyn yn magu ymwrthedd ac fe wnaethon ni ddechrau astudio yn y tîm, ymwrthedd gwenyn, 20 mlynedd yn ôl ym Mexico ond allen ni ddim deall y dull mewn gwenyn wedi’u Affricaneiddio. Ond yn 2017 cafodd papur mawr ei gyhoeddi gan fyfyriwr PhD Norwyaidd, Melissa Oddie, ac fe wnaeth hi ddarganfyddiad mawr.  Ac oddi wrth hynny, rwyf wedi newid cyfeiriad ein tîm yn llwyr ac rydyn ni’n awr yn astudio ymwrthedd i faroa ac mae nawr yn amser cyffrous iawn.

Waw, fe drown ni at yr ymwrthedd hwn i’r faroa mewn munud ond rwy’n meddwl i ddechrau oll, dim ond er mwyn amlinellu ychydig mwy ar y cefndir, ewch yn ôl i rywfaint o’r gwaith cynnar hwnnw roeddech chi’n ymwneud ag o ac a wnaeth ein helpu i ddeall cylch bywyd gwiddon a’u heffaith ar nythfeydd.  Efallai y gallech chi ddweud ychydig rhagor wrthyn ni am yr effaith y mae’r gwiddon yn ei chael ar nythfeydd gwenyn mêl a pham bod angen inni fod yn bryderus am y peth?

 

Iawn, wel dydy faroa ddim yn barasit brodorol i’r gwenyn mêl. Fe wnaeth neidio’r rhwystr rhywogaethau o Apis cerana drosodd yn Nwyrain Asia a lledaenu o amgylch y byd, a bryd hynny fe ddaeth, ac mae’n dal i fod, yn brif bla byd-eang i wenyn mêl a cheidwaid mêl yn hemisffer y Gogledd. Ac mae hynny oherwydd mae’r hyn mae’n ei wneud yn llwyddiannus dros ben. Mae’n addasu llawer iawn er mwyn iddo allu byw mewn nythfa gwenyn mêl. Ni all ond fyw mewn gwenyn mêl. Mae’n dra arbenigol fel yna. Mae’n bwydo ar y mag sy’n datblygu, dyna lle mae’n atgynhyrchu, ac yna pan nad yw’n atgynhyrchu, mae’n treulio ei amser ar y gwenyn llawn dwf a hefyd yn bwydo ar gyrff tew y gwenyn.

Y broblem fawr, mae’n ddamweiniol mewn ffordd, yw ein bod yn gwybod oddi wrth ddwy boblogaeth nawr, sy’n boblogaethau rhydd o faroa, y gallai’r gwenyn yn gyflym iawn addasu i’r gwiddon. Ac mae honno’n sefyllfa brin eithriadol. Poblogaethau bychan ar ynysoedd yw’r rhain, un ym Mrasil ac un yn Papua New Guinea. Beth ddigwyddodd yng ngweddill y byd, oedd fod yna nifer fawr o firysau gwenyn, firysau’r ydyn ni’n gyfarwydd iawn â nhw’n awr, ac yn syml fe aeth y faroa yn gysylltiedig ag un ohonyn nhw. A’r uniad hwnnw rhwng y gwiddon faroa â’r firws adenydd wedi’u hanffurfio, sydd ddim yn lladd y pwpaod, ac sydd felly mae’n caniatáu i’r gwiddon atgynhyrchu, sy’n effeithio ar y nythfa. Drwy leihau oes gweithwyr unigol, mae’n achosi i’r nythfa ddarfod, dros y gaeaf fel arfer oherwydd does yna ddim digon o weithwyr i adnewyddu’r nythfa yn ystod yr egwyl hir honno. A dyna beth wnaeth achosi’r broblem mewn gwirionedd. Felly’r firws storm perffaith hwn a fu unwaith yn brin eithriadol a sydd nawr ymysg y firysau pryfed mwyaf cyffredin ar y blaned oherwydd natur helaeth gwenyn mêl, sef y firws adenydd wedi’u hanffurfio, a’r firws, mae’r gwiddon faroa yn trosglwyddo’r firws yn ddiarwybod. I ddangos sut mae esblygiad yn gweithio, fe wyddon ni’n awr fod straen farwol y firws hwn yn cael ei gyfrif fel straen A a fod honno’n awr wedi newid yn straen B, ac yn ddiddorol, fel all straen B y firws atgynhyrchu yn y gwiddon lle na allai straen A wneud hynny. Felly, mae’n esblygu’n barhaus i fod yn well trosglwyddwyr.

Ie, felly dyna’r holl waith a wnaethom ar y firws, ac yna fe wnaethon ni lawer o waith cyn y gwaith firws ar atgynhyrchu oherwydd mae’n rhaid ichi ddeall atgynhyrchiad y gwiddon. Nid yw’n effeithlon iawn mewn Apis mellifera ond mae’n ddigon ar y cyd â’r firws i ladd y nythfa yn anffodus. Fel ddywedais i, dros y gaeaf fel arfer. 

Ie, a dwi’n meddwl eich bod yn gwybod, fel y dywedwch chi, mai dyna yw’r rhan hollbwysig, yn de? Bod yn gallu sylweddoli pan fo gennych chi faroa yn eich nythfeydd, fel y gwyddoch, sef mae’n debygol y rhan fwyaf ohonon ni y rhan fwyaf o’r amser, ond bod yn gallu ei reoli. A ydyn ni’n gallu dweud os yw’r firysau yn y nythfeydd, a bod y firws adenydd wedi’u hanffurfio hwn yn enwedig yn y nythfa hefyd?

Felly, mae ceidwaid gwenyn yn hoffi cysylltu’r firws adenydd wedi’u hanffurfio gyda phresenoldeb adenydd wedi’u hanffurfio. Yn wreiddiol, firws B yr Aifft oedd yr enw arno, ac mewn ffordd mae hwnnw’n enw gwell arno o bosibl oherwydd fe fydd y firws gan y rhan fwyaf, os nad yr holl wenyn yn y nythfa, neu gan ganran uchel iawn o’r gwenyn ym mhob nythfa yn y Deyrnas Unedig, heblaw am un neu ddwy o boblogaethau anghyffredin, ac mae hynny mewn gwenyn sydd ag adenydd normal a gydag adenydd wedi’u hanffurfio wrth gwrs. Ac rydyn ni’n awr yn gwybod oddi wrth waith yr Athro Evans pam bod yr anffurfiad yn digwydd. Mae’n eithaf prin a dweud y gwir ac mae’n digwydd ar hap pan fo’r firws yn dechrau atgynhyrchu yn egin yr adenydd. Nid yw hyn yn beth cyffredin, ond pan mae’n digwydd, dyna pan gewch chi’r anffurfiadau yn yr adenydd. Felly, fel ceidwaid gwenyn mae’n amhosibl canfod y firws. Fe allwch chi ddyfalu’n gywir os oes gennych chi faroa, ac fel y dywedoch chi’n iawn, mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud hynny ac os oes gennych chi adenydd wedi’u hanffurfio yn y nythfa, mae’n arwydd bod eich nythfa mewn trwbl difrifol. Byddwn i’n dweud fod yna lawer o widdon faroa. Ond ie, yn anffodus ar gyfer y rhan fwyaf o’r gwenyn allwch chi ddim dweud. Mae’n eistedd yno ac mae arnoch chi angen, wel yn anffodus mae arnoch chi angen dulliau moleciwlaidd PCR i ganfod y firws.

Mae hynny’n ddiddorol Stephen. Felly’r hyn rydych chi’n ei ddweud mewn gwirionedd yw nad yw presenoldeb adenydd wedi’u hanffurfio wir ddim ond yn crafu’r wyneb?

Mae honno’n ffordd ardderchog o’i ddisgrifio. Ie, felly yr ychydig wenyn gydag anffurfiad yw’r rhai sydd, yn amlwg, â’r firws adenydd wedi’u hanffurfio. Nid pob gwenyn gydag adenydd wedi’u hanffurfio cofiwch, roedden nhw i’w cael cyn i’r firws ddigwydd. Os nad oes digon o leithder yn y nythfa fe allwch chi hefyd achosi adenydd wedi’u hanffurfio ond mae’r rhan fwyaf yn awr yn gysylltiedig â’r firws ac yna os crafwch yr wyneb fe gewch y mwyafrif helaeth o wenyn sydd â’r firws. Ond mae ychydig yn fwy cymhleth na hynny oherwydd os yw’r gwenyn yn codi’r firws fel oedolyn, gan widdonyn fforetig, yna nid yw’r effaith mor fawr â phe byddem yn ei godi pan fo’r pwpa yn datblygu. Y gwenyn hynny sy’n datblygu sydd ag oes cymaint byrrach.

A, dyna bwynt diddorol arall eto. Felly, beth yw effeithiau’r firws ar y nythfa?

Felly, ceir llawer o fân effeithiau ond yr effaith fwyaf yw ei bod yn byrhau eu hoes, oddeutu traean. Felly, yn yr haf, maent yn byw oddeutu wythnos yn llai ond yn y gaeaf, mae’r holl wenyn sydd wedi’u heintio â’r firws, maen nhw fel arfer wedi marw erbyn y Nadolig. Ni allant oroesi drwodd i’r pen arall ac mae hynny’n achosi i’r nythfeydd farw. Mae yna effeithiau eraill wedi’u canfod hefyd, sef dryswch ac oes fer hefyd yn yr oedolion ond mae’n llai amlwg, a mwy o fforio. Felly, mae’n newid eu hymddygiad mewn sawl ffordd ond yr un mawr yw byrhau eu hoes.

Ac unwaith eto, mae hynny’n effeithio ar allu’r nythfa i oroesi dros y gaeaf.

Ydy yn union, a dyna pam rydyn ni’n gweld bron yr holl nythfeydd yn marw yn y gaeaf, oherwydd yn ystod y gwanwyn a’r haf mae’r nythfeydd yn ehangu, maen nhw’n cynhyrchu, wyddech chi, hyd at 2,000 o wenyn newydd y dydd, felly fe allwch chi golli llawer o wenyn bob dydd a bydd y nythfa yn dal i dyfu. Ond mae’n digwydd yn y cyfnod tawel, oherwydd yn yr hydref, Awst, Medi, ceir storm berffaith arall lle cewch chi ostyngiad ym mhoblogaeth y gwenyn llawn dwf ond wedyn gynnydd yn y boblogaeth gwiddon felly mae’r pla yn cynyddu’n aruthrol. A dyma’r amser tyngedfennol pan fo’r rhan fwyaf, neu cyfran fawr o’ch gwenyn gaeaf yn cael eu heintio â’r firws a’r rhain sy’n marw allan. Nid oes angen i bob gwenyn gael ei heintio. Dyma pam bod tua 2,000 o widdon yn ddigon i difetha’r nythfa yn ystod cyfnod y gaeaf. Felly chewch chi ddim digon o wenyn i wneud y nythfa’n hyfyw ym mis Ebrill

Ie, felly, dim ond i daro nodyn ychydig yn fwy cadarnhaol, nawr mae eich gwaith ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar rai o nodweddion naturiol y gwenyn mêl a allai fod yn eu helpu i amddiffyn eu hunain yn erbyn faroa. Felly, beth yw’r nodweddion hyn rydych chi’n ymchwilio iddynt?

Iawn felly, mae hyn wir yn gyffrous ar ôl treulio oddeutu 30 mlynedd yn gweithio ar faroa, mae’n braf iawn gweld, bod yn gallu gweld canlyniad cadarnhaol o’r diwedd. Felly, fe wyddom 20 mlynedd yn ôl, fod gwenyn wedi’u Affricaneiddio yn gallu byw gyda faroa ac mae’r firws ganddynt, yr un firysau a sydd gennyn ni, ac mae ganddyn nhw’r un gwiddonyn. Felly, mae’r sefyllfaoedd yn union yr un fath. Ac eithrio, dydy’r nythfeydd hyn ddim yn marw, ac ni chânt eu trin o gwbl, ac maen nhw’n parhau am ddegawdau nawr heb driniaeth ac rydyn ni’n ymwybodol o hynny. Nawr, fe wyddom mai un o’r achosion y tu ôl hynny yw bod eu gallu i atgynhyrchu yn lleihau. Y darn mawr coll o’r jig-so oedd na wyddom beth oedd yn achosi’r anallu hwnnw i atgynhyrchu cystal ag mewn hinsoddau cymedrol. Yna’n fwy diweddar, y fyfyrwraig Norwyaidd, Melissa Oddie, fe wnaeth hi ganfod fod yna nodwedd y gwnaeth hi ei disgrifio, a elwid yn ailgapio. Roedd hi’n astudio nythfeydd a oedd yn boblogaethau ag ymwrthedd, roedd y rhain yn boblogaethau a oedd ag ymwrthedd naturiol, na chawsant eu trin ers dros 10 mlynedd, yn erbyn y poblogaethau agored i niwed clasurol, y mae ceidwaid gwenyn yn eu trin yn barhaus. Ac fe wnaeth sylwi ar y nodwedd hon, sef gallu’r gwenyn i ganfod celloedd wedi’u heintio, ac fe allwch weld hyn drwy’r cyfraddau ailgapio. Sef pan gaiff cell ei hagor ac yna ei chau drachefn. Yn y nythfeydd sydd ag ymwrthedd roedd yn uchel iawn, mae 50 y cant neu ragor o’r celloedd heintiedig wedi cael eu hailgapio a llawer o’r celloedd sydd heb eu heintio. Tra bod y boblogaeth agored i niwed yn dangos lefel eithaf isel o’r ymddygiad ail-gapio hwn. Os edrychwch wedyn mewn nythfeydd glân, lle na welwyd faroa erioed, megis yn Awstralia neu ar Colonsay, yr ynys yn y Deyrnas Unedig lle nad oes dim faroa, neu Ynys Manaw, yna dydy’r ymddygiad ailgapio hwn bron byth i’w weld. Felly, fe wnaeth y nodwedd hon addasu’n syml i frwydro yn erbyn faroa. Mae’n mynd ychydig yn fwy cymhleth na hynny oherwydd bod yr ailgapio yn nodwedd dda iawn rydyn ni’n gallu ei mesur ond yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd, wel mi af fi ymlaen at hynny mewn munud, ond y nodwedd arall yw eu bod yn gallu canfod a chael gwared ar bwpaod heintiedig.  Dydyn nhw ddim yn cael gwared ohonynt, maen nhw’n eu canibalyddio nhw. Y gallu hwn y mae’r gwenyn wedi’i ddysgu i ganfod celloedd heintiedig yw’r pwynt allweddol ym mhob poblogaeth sydd ag ymwrthedd ar draws y byd ac rydyn ni’n eu hastudio mewn llawer iawn o wledydd. Hon yw’r nodwedd ganolog, maen nhw i gyd yn addasu yn yr un ffordd, ac maen nhw’n dysgu i wahaniaethu rhwng cell heintiedig a chell iach ac yna maen nhw’n defnyddio eu hymddygiad hylan i gael gwared ohonyn nhw.  

Ac a oes gennych chi unrhyw syniad sut maen nhw’n llwyddo i ganfod a oes gwiddon yn y celloedd ai peidio?

Oes. Fe wnaeth grŵp Fanny Mondet dipyn o waith yn Ffrainc dros nifer fawr o flynyddoedd. Mae’n ddarn ardderchog o waith. Maen nhw wedi dangos ei bod yn ymddangos bod epil y gwiddon yn cynhyrchu cyfres o getonau ac asetadau. Maent i’w cael yn y celloedd heintiedig. Y dybiaeth yw ei fod yn dod o epil y gwiddonyn. Mae’n bosibl y gallai ddod oddi wrth y pwpaod fel arwydd o straen, ond mae hynny i’w benderfynu eto, ond fe wyddom fod gan y celloedd hyn arogl unigryw cetonau a rhai asetadau. Dyna beth maent wedi’i ddysgu ac maen nhw’n gallu gwahaniaethu rhwng pa gelloedd mae hyn yn effeithio arnynt a pha rai sy’n lân, ac maen nhw’n gwybod beth mae’n ei olygu. Maen nhw’n gallu ei gysylltu â faroa.

Waw, mae hynny’n ddiddorol dros ben.  Felly, pan maent yn dadgapio’r celloedd hyn beth maen nhw’n ei wneud i’r gwiddon? A ydy’r weithred o ddadgapio ynddi’i hun yn lladd y gwiddon ynteu a ydy hynny jest yn amharu ar eu hatgynhyrchiad? Beth yn union sy’n digwydd?

Rydyn ni’n meddwl mai sgil effaith i’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd ydy’r ailgapio. Pan fo’r gwenyn yn canfod cell heintiedig, mae dawns gymhleth o ymddygiad hylan yn dechrau sy’n cynnwys nifer o wahanol grwpiau o wenyn. Mae’r gwenyn cychwynnol i’w cael, sy’n wenyn hynod arbenigol sy’n gallu canfod y gwahaniaethau hyn ac agor y gell. Mae yna wenyn arall sy’n dod heibio, ac os ydyn nhw’n penderfynu hefyd fod y gell hon wedi’i heintio gan y gwiddon, byddant wedyn yn cynyddu ei maint ac yna’n dechrau canibalyddio’r pwpa unigol. Pan wnânt hyn, mae yna nifer o wenyn yn ymuno â nhw. Pan maen nhw’n gwneud hyn, mae’r fam-widdon yn dianc, gan ei bod hi’n dal i fod yn addasadwy iawn. Ond mae’n colli ei holl epilion, ac felly’n colli unrhyw siawns o atgynhyrchu yn ystod yr amser hwnnw. Nid oes gan widdon ond y gallu i atgynhyrchu ddwywaith neu dair yn ystod eu hoes, felly os oes rhywbeth yn tarfu arnoch unwaith, rydych chi’n colli traean o’ch gallu i atgynhyrchu. Fodd bynnag, mae yna wenyn eraill yn y nythfa, pan welant gell agored, fe fyddant yn ei hailgapio, ac os yw’r pwpa yn dal yn fyw, fe allant ganfod hynny, ac os nad oes dim i’w weld o’i le, fe wnânt ailgapio’r gell. Felly, mae fy nhîm wedi gallu dangos bod yr ailgapio yn digwydd mewn ardaloedd, ac mae’n digwydd mewn ardaloedd o amgylch celloedd heintiedig. A dyma pam bod ailgapio yn ddirprwy da i’r ffaith eu bod wedi llwyddo i ganfod celloedd â gwiddon ynddynt, oherwydd mae’r celloedd hyn yn cael eu hagor a’u cau a’u hagor a’u cau ac yna efallai eu hagor a’u dinistrio. Mae hyn yn digwydd am ddyddiau lawer yn ystod datblygiad y pwpa.

Waw, mae yna felly, dwi’n meddwl ei bod hi’n gwbl anhygoel meddwl bod yna felly wahanol grwpiau o wenyn yn rhan o’r broses gyfan hon. Rhaid imi gyfaddef mai fy nhybiaeth wreiddiol oedd mai un wenynen oedd yn dadgapio ac yna o bosibl yn ei hailgapio. Felly, mae’n ddiddorol clywed bod yna mewn gwirionedd nifer o grwpiau o wenyn yn rhan o’r hyn sy’n broses llawer mwy cyfrannog.

Ydy. Felly, mae’r gwaith hwn yn seiliedig yn bennaf ar grŵp Marla Spivak ym Minnesota ac maen nhw wedi treulio bron i ddegawd yn astudio ymddygiad hylan. Nhw oedd y rhai i wir ddatrys y mater hwn. Ond ydynt, mae gwenyn yn arbenigo. Rydyn ni’n meddwl am wenyn sy’n nyrsys a gwenyn sy’n fforwyr ac mae’n union yr un peth. Mae wedi dangos bod yna fwlch dau oed, felly rhwng…, dydw i ddim yn hollol sicr ar gyfer y cetonau, ond mae gwenyn yn dod yn sensitif iawn dros gyfnod o ddau ddiwrnod. Ac mae hyn yn ymwneud â’r newidiadau yng nghemeg eu hymennydd ac maen nhw’n dda iawn am synhwyro pethau, am synhwyro gwahaniaethau. Mae’r ailgapwyr wedyn yn grŵp gwahanol o wenyn. Os cewch chi anghydbwysedd rhwng y gwahanol grwpiau hyn fe allech yn y diwedd gael mag moel, gan fod rhai gwenyn yn mynd o gwmpas yn agor celloedd ond efallai nad oes digon o ailgapwyr yn y nythfa i gywiro’n gyflym y camgymeriadau y gellir eu gwneud. Mae yna ddau bosibilrwydd pam eu bod yn agor y celloedd sydd heb eu heintio, mae’n wastraff amser i bob golwg. Efallai mewn cwch gwenyn, mewn cell heintiedig, ei bod hi’n anodd iawn synhwyro’r cemegau hyn oherwydd eu bod yn dod drwy sidan ac yna maen nhw’n dod drwy’r cwyr ac yna mae gwenyn yn symud o gwmpas drwy’r amser. Felly, fe allai’r gwenyn feddwl ei fod yn yr ardal hon, ac maen nhw’n dechrau dadgapio nifer o gelloedd i ganfod yr union gell. Felly dyna un posibilrwydd ac o bosibl yr un mwyaf tebygol. A’r posibilrwydd arall yw bod gwiddon yn aml yn dod at ei gilydd mewn grwpiau, mewn diliau, felly unwaith y mae gwenyn yn dod o hyd i un mae wedyn yn chwilio o amgylch y gell honno am rai eraill. Dyna pam maen nhw’n dadgapio llawer o gelloedd sydd heb eu heintio hefyd, ac wrth gwrs mae’r rhain yn werthfawr iawn felly mae eu hailgapio yn nodwedd bwysig iawn, oherwydd camgymeriad ydy e felly mae angen cywiro’r camgymeriad, oherwydd os dechreuant gael gwared ar fag sydd heb ei heintio ymhen amser fe fyddent yn lladd y nythfa felly mae’n rhaid iddynt fod yn ofalus iawn. Felly, mae’r gwenyn wedi esblygu llawer iawn i wneud y pethau hyn.

Ydyn, ac rwyf fi’n bendant wedi gweld darnau o fag heb ei gapio yn fy nythfeydd i sydd heb eu hailgapio eto. Felly, ydych chi’n meddwl eu bod nhw ymhen amser yn ailgapio’r rheini yn hytrach na’u gadael yn foel?

Ydy, a dweud y gwir, dydych chi byth yn gweld gwenyn, wel fyswn i ddim yn dweud byth, ond prin iawn fyddech chi’n gweld celloedd sydd heb eu capio sydd â phwpa aeddfed iawn ynddynt. Felly maent bron â dod allan neu’n dywyll iawn. Maent yn tueddu i fod â chyrff gwyn, naill ai llygaid gwyn neu binc neu biws, felly maen nhw fel arfer mewn cam penodol ond dydyn nhw byth yn llawer hwyrach. Felly, maen nhw wastad yn cael eu hailgapio. Mae rhai gwyddonwyr wedi tynnu’r holl gapiau oddi ar ffrâm fag, eu roi’n ôl yn y nythfa i weld beth sy’n digwydd, ac maen nhw’n eu hailgapio’n gyflym iawn. Yr holl gelloedd. Felly, os oes rhywun, gan fod gan yr holl wenyn yn y Deyrnas Unedig y gallu, nid yw’n allu da iawn, ond mae ganddynt rywfaint o allu i ganfod y gwiddon, yna mae pobl yn gweld fwyfwy y mag wedi’i ailgapio, y mag moel hwn. Os awn ni’n ôl ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, fe welwch eu bod yn edrych yn normal unwaith eto.

Mae hynny’n ddiddorol iawn a dweud y gwir oherwydd dydw i ond erioed wedi’u gweld nhw yn y cam gwyn, fel y dywedwch, dydych chi byth yn gweld nhw’n hwyrach na hynny. Felly ie, mae’n eithaf calonogol meddwl bod y nodweddion hyn yn bodoli. Sut allai ceidwaid gwenyn felly fonitro eu hunain i wybod a oes ganddynt nodweddion tra datblygedig fel hyn yn eu nythfeydd eu hunain?

Wel, rydyn ni wedi bod yn ddigon ffodus i deithio o amgylch nifer fawr o wledydd i ddechrau magu profiad a hefyd siarad â cheidwaid gwenyn yn y Deyrnas Unedig sydd, wyddech chi, eisoes ddim yn trin. Mae pobl wedi mynd i lawr y trywydd hwn mewn sawl ffordd. Un o’r rhai symlaf, a dyna beth ddigwyddodd yng Ngogledd Cymru ac rwyf wedi gweld hyn yn digwydd yn Hawaii ac mewn gwledydd eraill. Mae ceidwaid gwenyn wedi dechrau casglu heidiau o nythfeydd gwyllt o ffynonellau, ac o goedwigoedd neu adeiladau, lle maent wedi gweld nythfeydd sydd i’w gweld yn para am flynyddoedd lawer. Ac maen nhw wedi casglu’r heidiau hyn ac wedi dechrau eu gweithgaredd cadw gwenyn gyda’r heidiau hyn. Ac mae gennym achos hyfryd yn Hawaii, sydd wedi mynd drwy’r un problemau â Lloegr. Fe wnaethant gael faroa, ac fe wnaeth llawer iawn o nythfeydd farw. Fe wnaeth pawb ddechrau trin, ond mae un neu ddau o geidwaid gwenyn wedi dechrau sylweddoli bod nythfeydd gwyllt wedi dychwelyd, oherwydd fe wnaethant ddiflannu. Fe wnaethant ddechrau casglu nythfeydd gwyllt ac mae un ceidwad gwenyn wedi mynd o bump nythfa i 200 yn y tair i bedair blynedd diwethaf. Ac mae ond yn casglu nythfeydd gwyllt, gan nad yw’n trin, a phan edrychom ar y rhain, mae ganddynt bob un o’r nodweddion ymwrthedd: nodweddion dileu, ailgapio da, a nodweddion ffrwythlondeb isel, fel y tair nodwedd allweddol.  Felly dyna un ffordd, a buom yn astudio’r gallu i weld allwch chi wneud hynny gyda brenhines. Rhaid ichi rannu’r nythfa ac rydyn ni dim ond yn gwneud y gwaith ysgrifennu ar gyfer y gwaith hwn ar y foment, ond mae’n ymddangos bod y frenhines yn allweddol yn hyn. Felly, fe allwch chi gael mynediad i geidwaid gwenyn sydd heb fod yn trin ers blynyddoedd lawer yna fe allech chi o bosibl brynu ambell frenhines ganddynt a’i sefydlu fel yna. Mae yna grŵp o geidwaid gwenyn yn ne Lloegr ac maen nhw wedi bod yn dethol eu nythfeydd. Maen nhw wedi rhoi’r gorau i drin ac yn hytrach maent wedi bod yn edrych ar eu lloriau gwiddon, nid am widdon ond am arwyddion o bwpaod y cafwyd gwared arnynt.   Felly, darnau o goesau, darnau o antenau, ac maent yn eithaf hawdd i’w gweld gan eu bod yn wyn, maen nhw bron yn dryloyw, ac mae hynny’n arwydd eu bod wedi bod yn cael gwared ar bwpaod. Felly dyna un peth maen nhw wedi bod yn ei wneud. Yr hyn rydyn ni’n cynghori pobl i’w wneud, sy’n debyg iawn i ddulliau rheoli plâu integredig mewn ffordd, ond fod y gwaith rheoli plâu yn cael ei wneud gan y gwenyn hytrach na gan eu ceidwaid. Ond eich gwaith chi, ydy dal ati i fonitro’r nythfeydd. Yr hyn rydyn ni’n ei awgrymu ar gyfer y ceidwaid gwenyn yw eu bod yn defnyddio llai o driniaethau. Pa bynnag driniaeth maent yn ei defnyddio, fe allant ddefnyddio llai arni. Ni ddylent stopio’r driniaeth. Fe allai stopio fod, wel, fe allech chi golli eich nythfeydd ar ddiwedd y dydd. Felly, beth mae angen ichi ei wneud yw trin llai a monitro mwy. Mae dulliau rheoli plâu integredig yn golygu monitro a thrin pan fo angen. A dyna’n union beth mae angen ichi ei wneud i gael gwenyn nad oes angen eu trin. Mae angen ichi helpu’r gwenyn ar y ffordd honno. Felly, os ydych chi’n defnyddio llai ar driniaethau, byddwn i’n awgrymu hanner beth ydych chi’n ei ddefnyddio ar y foment a chynyddu’r gwaith monitro i ddwbl hwnnw ac os oes ar y nythfa angen ei thrin, os nad yw’n edrych yn dda, ac mae’r poblogaethau gwiddon yn cynyddu, yna rhowch driniaeth iddi. I’r rhai nad oes arnynt angen cael eu trin ac sy’n gwneud yn well, gadwech iddynt, ac fe fydd hyn mae’n debyg yn cymryd pum neu chwe mlynedd o fonitro a lleihau. Ac ymhen amser, ar ôl ichi gyrraedd y statws hwnnw lle nad oes raid ichi drin, ac rydyn ni’n amcangyfrif bod yna oddeutu 3,000 o geidwaid gwenyn yn y Deyrnas Unedig, o arolwg diweddar, sydd heb fod yn trin ers nifer o flynyddoedd, fe welwch chi fanteision peidio â thrin, fel rhai o’r bobl hyn. Y cyngor gorau yw dod o hyd i rywun yn eich cymdeithas leol sydd heb fod yn trin ers blynyddoedd lawer, a gofyn iddynt beth wnaethon nhw, a dysgu oddi wrth bobl drwy brofiad.

Ie, a dwi’n credu bod hynny yn ein harwain ymlaen yn daclus at siarad ychydig mwy am ddulliau rheoli plâu integredig a sut all hyn gyd-fynd â rhaglen rheoli plâu integredig. Felly, fel dywedoch chi’n gywir, mae IPM fel y’i gelwir, i wneud â monitro a deall beth yw lefel y gwiddon yn y nythfeydd, ac yna pan gyrhaeddant drothwyon penodol rydych chi wedyn yn mynd i mewn a delio â’r broblem honno. Felly, a fyddech chi’n argymell ein bod yn glynu wrth y trothwyon a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn rhaglenni IPM ynteu ydych chi’n meddwl bod eich nythfeydd sydd o bosibl yn arddangos nodweddion mwy naturiol yn gallu gwrthsefyll trothwyon gwiddon uwch? Felly, sut ydych chi’n ein gweld ni’n defnyddio hyn mewn rhaglen IPM?

Rwy’n meddwl y dylech chi lynu wrth y trothwyon ar y foment gan na wyddom yr union gwestiwn, oherwydd pan gewch boblogaeth o widdon, mae gwiddon yn byw dros flwyddyn, ac nid yw pob gwiddonyn yr un fath. Felly, os yw wyau’r gwiddonyn yn darfod, yna bydd yn dal i geisio atgynhyrchu, ond mewn gwirionedd bydd yn methu. Felly, mae hwnnw’n widdonyn an-atgynhyrchiol. Gadewch inni rannu’r boblogaeth yn atgynhyrchiol ac yn an-atgynhyrchiol. Felly, i gadw pethau’n syml, glynwch wrth yr un trothwyon, sef 2,000, o’r gwaith a wnaethon ni. Er bod yr Uned Wenyn Genedlaethol yn awgrymu, i fod yn ddiogel, y gallwch chi gwympo hwnnw i fil, ond rwy’n iawn â hynny. Glynwch wrth yr un trothwyon, ond yr hyn rydych chi’n ei wneud yma, yw monitro. Pan mae’n cyrraedd y trothwy hwnnw, mae angen ichi weinyddu triniaeth o fath, oherwydd mae’n golygu na all y gwenyn gadw’r lefel honno i lawr. Ond y nythfeydd hynny nad ydynt yn cyrraedd y trothwy hwnnw, does dim raid ichi eu trin. Sef i bob pwrpas yr hyn ddylech chi fod yn ei wneud pryn bynnag. Yn anffodus, ychydig iawn o bobl sy’n gwneud hyn mewn gwirionedd, ac efallai bod hwn yn ysgogydd da iawn i’w cael, i’w hannog i ddechrau gwneud hynny. Ac yna, beth allwch chi wneud, yw i bob pwrpas, dal i fonitro, os yw’r gwenyn yn cyrraedd y trothwy hwnnw eto wel mae angen ichi drin. Ac yn sydyn rydych chi’n sylweddoli, mae rhai gwenyn yn dda iawn am gadw lefelau’r gwiddon i lawr, tra bo eraill ddim cystal. Ond os dyna’r sefyllfa, yna dylech fod yn magu oddi wrth y gwenyn sy’n dda am gadw’r lefel honno i lawr, rhannu’r nythfeydd neu beth bynnag, ac efallai ewthaneiddio’r gwenyn nad ydych chi eisiau, neu eu rhoi i rywun arall nad oes ganddynt ddiddordeb mynd i lawr y llwybr dim triniaeth. Felly, dyna yw’r cyngor gorau allwn ni ei roi ar y foment. Fel dywedant, rydyn ni’n dal i gael ein hariannu gan y BDI a BBKA, a’r hyn rydyn ni’n ceisio’i wneud yw dod â mwy o adnoddau i’r ceidwaid gwenyn, ac yn y bôn beth yw’r dewisiadau, beth yw’r arfer gorau gan bobl eraill sydd wedi dilyn y trywydd hwn. Oherwydd mae gan bobl eraill ffyrdd eraill o’i wneud e. Fel rwy’n awgrymu, mae chwilio am bwpaod y cafwyd gwared ohonynt yn ymddangos fel ffordd dda iawn.  Rydyn ni’n dechrau cynnal gweithdai ar sut i fesur ailgapio. Dydy e ddim mor anodd â hynny ac rydym wedi rhoi fideos ar wefan y BDI ac wedi gwneud Rhifyn Arbennig ar gyfer BBKA ac mae’n llawn gwybodaeth. Y peth arall rydyn ni’n awyddus iawn i’w wneud, yw bod yr holl waith a wnaethom yn wyddonol i gyd ar gael am ddim ar-lein, oherwydd ceidwaid gwenyn sy’n talu amdano felly fe ddylai ceidwaid gwenyn gael mynediad iddynt. Ewch ati i ddarllen drosoch eich hun a phenderfynu drosoch eich hun, ac rydyn ni’n dal i ysgrifennu pethau yn y wasg. Ond dwi’n meddwl mai fel yna yw’r ffordd o’i wneud e, defnyddio llai o driniaethau, ac yna dal i fonitro a dim ond trin pan fo angen, ac os nad oes raid ichi drin yna peidiwch, ac aros i’r trothwyon gael eu cyrraedd.

Dwi’n hoffi’r cyngor hwnnw Stephen a dwi’n hoffi’r ffaith eich bod yn awgrymu y gallai hyn mewn gwirionedd annog mwy o bobl i ddefnyddio dull rheoli plâu integredig. Felly, os ydyn ni mewn senario lle’r ydyn ni’n defnyddio dulliau rheoli plâu integredig, yna cyn trin, dylem fod yn mabwysiadu rhai o’r dulliau bio-dechnegol eraill megis trapio’r frenhines, neu dynnu mag gwryw, ac felly os ydyn ni’n defnyddio pethau fel yna, a ydy hynny’n helpu’r gwenyn mewn gwirionedd, yn ei hanfod, rhowch amser iddynt ddatblygu eu nodweddion naturiol eu hunain?

 

Ie, mae hynny’n ardderchog Lynfa. Wnes i anghofio sôn am hynny. Un dewis er mwyn defnyddio llai o driniaethau, a gan fod y rhan fwyaf o geidwaid gwenyn yn defnyddio un neu ddau ddogn o driniaethau cemegol yn y Deyrnas Unedig, yw defnyddio dulliau rheoli bio-dechnegol yn hytrach, trapio’r frenhines, trapio’r gwenyn gwryw, a defnyddio powdr siwgr ayb., ayb. Ac nid yw’r rhain mor effeithlon â’r cemegau, ond maen nhw’n llai niweidiol i’r gwenyn. Ond dydyn nhw ddim mor effeithlon ac mae hynny rhoi cyfle i’r gwenyn ddysgu i ganfod y gwiddon. Mae gan yr holl wenyn yn y Deyrnas Unedig rywfaint o allu i wneud hynny, ond nid yw’n ddigon cywrain, i reoli’r boblogaeth faroa. Felly, amser maen nhw angen, a drwy ddefnyddio dulliau rheoli bio-dechnegol, bydd, fe fydd yn rhoi iddynt well siawns o ddysgu. Ac eto, monitrwch, ac yn wir, os oes gennyn ni nythfeydd sy’n edrych yn sâl iawn, yna bydd angen ichi gamu i mewn gyda dull rheoli cemegol o bosibl. Ond fe allwch ddefnyddio llawer llai. Rwy’n gwybod am bobl sydd wedi bod yn trapio’r gwenyn gwryw ers dyfodiad faroa, maen nhw wastad wedi defnyddio’r dull hwnnw ac erioed wedi troi’n ôl at ddefnyddio unrhyw gemegau. Felly, mae yn bosibl. Ac ymhen amser, dydyn nhw ddim yn gorfod gwneud hynny mwyach. Fe allant stopio gan fod gan eu gwenyn bellach ymwrthedd.

Waw, mae hynny’n wych oherwydd rwy’n meddwl y dylen ni i gyd fod yn symud at bwynt lle’r ydym yn defnyddio llai o gemegau yn ein cychod, oherwydd ar ddiwedd y dydd rydyn ni’n cynhyrchu cynnyrch bwyd, felly dydyn ni ddim eisiau bod yn llygru ein cychod â chynhyrchion. Ond wyddoch chi, mae yna adegau pan fydd angen inni eu defnyddio’n ddi-os, ond os gallwn ddefnyddio’r peirianweithiau eraill hyn hefyd yna byddwn yn mynd yn llai dibynnol ar gemegau. Felly, fe welwch, mae popeth yn swnio’n gadarnhaol iawn a dweud y gwir.

Ie wir, mae’n wych gweld y goleuni ym mhen draw’r twnnel a dim ond un esiampl a byddaf yn ysgrifennu rhywbeth am hyn yn y BBKA. Buom yn ddigon ffodus i fynd i ynys Ciwba. Yng Nghiwba ar hyn o bryd y mae’r boblogaeth gwenyn mêl Ewropeaidd fwyaf ac mae ganddi ymwrthedd llwyr mewn dros 250,000 o nythfeydd a dydyn nhw heb ddefnyddio triniaethau ers degawdau. Gwnaed penderfyniad canolog, fel yn Ne Affrica, i beidio â thrin pan oedd faroa yn cyrraedd. Nid yw hyn yn bosibl mewn gwledydd yn aml yn Hemisffer y Gogledd, yn enwedig os ceir economi fawr sy’n esblygu o’i gwmpas. Fe wnaethant y penderfyniad hwnnw. Fe wnaethant golli llawer o nythfeydd i ddechrau, ond mae lle i gredu bod ganddynt boblogaeth wyllt fawr iawn a dros gyfnod o bump neu chwe mlynedd fe wnaeth eu poblogaeth ddysgu a nawr mae’r ceidwaid gwenyn yn mwynhau. Dydyn nhw erioed wedi defnyddio cemegau. Mae ganddynt wenyn tawel iawn. Maent yn effeithlon iawn. Maent yn gwneud llawer o fêl ac mae’n ymddangos nad oes dim anfanteision. Maent bellach yn ôl i’r dull cadw gwenyn cyn dyfodiad faroa ac er bod faroa i’w cael ym mhob nythfa anaml iawn y mae’n lladd nythfeydd. Ac fe wyddom oddi wrth waith y buon ni’n ei wneud mewn gwenyn wedi’u Affricaneiddio, fod y gwiddon nawr yn dechrau osgoi defnyddio mag gweithwyr.  Felly, pan wnaethom yr astudiaethau i ddechrau, 20 mlynedd yn ôl, roedd oddeutu 20 y cant o gelloedd mag gweithwyr yn heintiedig, a doedden nhw i gyd ddim yn atgynhyrchu wrth gwrs, ond nawr mae i lawr i bedwar y cant. Mae’r lefelau gwiddon tua’r un fath. Felly, mae’n ymddangos eu bod nawr yn aros i fag gwenyn gwryw fod yn gallu atgynhyrchu. Mae hynny’n gyffrous iawn, gan fod hynny’n debyg iawn i’r hyn sy’n digwydd gydag Apis cerana. Ac ymhen amser, fy ngobaith i, i’r dyfodol yw y bydd hyn yn digwydd ym mhob gwlad lle mae gennym ymwrthedd hirdymor i faroa.

Ie, rydyn ni wir yn symud ymlaen â hyn nawr pan oedden ni, 10 mlynedd yn ôl, efallai ychydig yn anobeithiol ynglŷn ag effaith faroa ar gadw gwenyn. Hoffwn gyffwrdd ar beth yw’r effaith ar lefelau’r firws. Mi wnaethoch godi pwynt pwysig yn fan yna, sef nad yw’r ffaith bod gan eich nythfeydd ymwrthedd yn golygu nad oes gennych faroa yn eich nythfeydd. Bydd gennych chi’n bendant faroa yno o hyd. A ydy hynny’n golygu bod y firysau yn dal i allu lluosogi a dal i achosi problem neu a ydy lefelau’r firws yn is hefyd mewn nythfeydd sydd ag ymwrthedd i faroa?

 

Wel, fe wyddom o waith a wnaed yn Ne Affrica ac ym Mrasil, a gyda lwc bydd data yn dod i mewn o Giwba nawr, fod lefelau’r firws yn lleihau. Mae’n eithaf syml, o ran ni fydd y firysau yn diflannu. Maent yno. Mae’n awr yn rhan o weithgaredd cadw gwenyn am byth bythoedd, a’r rheswm am hynny yw oherwydd fe geir dau drywydd trosglwyddo. Fe gewch chi drywydd trosglwyddo’r faroa, sef yr hyn sy’n achosi’r niwed, ond ceir hefyd drywydd trosglwyddo naturiol sy’n gallu mynd drwy’r frenhines, drwy’r wy, neu’r gwenyn gwryw, drwy’r sberm, neu’r gweithwyr, drwy fwyd. Dyna fel mae firysau yn mynd o gwmpas fel arfer. Trywydd trosglwyddo drwy’r geg yw hwnnw ac effeithiau dibwys bach iawn a gaiff hynny ar y nythfa. Felly, does dim angen inni boeni am hynny. Y gwiddonyn faroa yw’r broblem. Dyna sy’n ei achosi, sy’n rhoi’r firws mewn lle na ddylai fod, e.e. y tu mewn i gorff y gwenyn, heibio holl amddiffyniadau feirysol naturiol y perfedd. Ac felly, drwy leihau’r boblogaeth wenyn, mae’n ddrwg gen i, drwy leihau’r boblogaeth faroa, rydych chi’n lleihau poblogaeth y firws neu’r boblogaeth firws niweidiol, ac mae hynny’n ysgafnu’r baich i’r nythfeydd fel eu bod yn mynd yn eithaf cynaliadwy. Bydd y firws adenydd wedi’u hanffurfio yn dod yn ddim ond firws arall a geir mewn gwenyn mêl fel y firws cell brenhines ddu ac nid yw wir yn achosi dim problemau nac unrhyw broblemau mawr i’r dyfodol.

Wel yn wir, mae hynny’n rhyfeddol. Hoffwn i efallai gyffwrdd ar beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig o bosibl yma ac rwy’n credu y byddai hyn o ddiddordeb arbennig i geidwaid gwenyn yn Awstralia, sydd o bosibl yn teimlo braidd dan fygythiad ar y foment gan fod y gwiddon faroa newydd gyrraedd cyfandir Awstralia. A ydych chi felly yn optimistaidd y bydd ein gwenyn yn gallu byw ochr yn ochr â faroa a beth ydych chi’n feddwl sy’n mynd i ddigwydd i’r dyfodol?

Ydw, dwi’n optimistaidd dros ben. Dyma’r tro cyntaf yn fy holl yrfa pan dwi’n gallu gweld ateb. Codwyd nifer o sgwarnogod ar hyd y ffordd ond mae’r dystiolaeth nawr yn aruthrol.  Mewn cyfandiroedd gwahanol, mewn poblogaethau gwahanol, hinsoddau, amgylcheddau gwahanol, gwahanol ddulliau o gadw gwenyn, nid oes dim gwahaniaeth. Ar ddiwedd y dydd Apis mellifera ydy Apis mellifera ac mae’n gallu datblygu ymwrthedd i widdon faroa. Ceir poblogaethau ar draws Ewrop, Affrica, America Ladin, y Caribi, y Deyrnas Unedig. Gwyddom fod ceidwaid gwenyn wedi bod yn gweithio â cheidwaid gwenyn sydd heb fod yn trin am dros 10 mlynedd yma. Y lleiafrif ydy’r rheini ar hyn o bryd ac er bod arolygon diweddar gennyf fi a’r BBKA yn dangos bod oddeutu 25 y cant o geidwaid gwenyn Prydain ddim yn trin. Bydd rhaid i rai ohonynt drin oherwydd yn amlwg dim ond megis cychwyn ar eu siwrnai dim triniaeth maen nhw, ond fy ngobaith i yw, yn y, wel fe ddywedais i 10 mlynedd ddwy flynedd yn ôl, felly yn yr wyth mlynedd nesaf, na fydd dros hanner, mwyafrif y ceidwaid gwenyn yn y Deyrnas Unedig yn trin. Mae gan grwpiau a sefydliadau cadw gwenyn ddiddordeb mawr yn hyn. Ar ôl gweld hyn â’m llygaid fy hun mewn nifer fawr o wledydd, rwy’n gwybod mai felly mae hi. Nid rhywbeth damcaniaethol mohono. Mae hyn yn rhywbeth sy’n real. Wyddoch chi, rydyn ni wedi gweld gwenyn Ewropeaidd, rydyn ni wedi gweld gwenyn wedi’u Affricaneiddio, sydd heb gael eu trin yno. Does dim twyll yma. Mae gwyddoniaeth yn cefnogi’r hyn mae’r ceidwaid gwenyn yn ei ddweud wrthym ac, yn wir, yn y sefyllfa hon mae gwyddoniaeth ar ôl yr hyn y mae ceidwaid gwenyn yn ei weld, ac rydyn ni wedi bod yn dal i fyny. Ond nawr, mae’r rhan fwyaf ohono a’r holl bethau blaenllaw yn hysbys ac mae’r cyfan yn ffitio stori neis felly rwyf fi’n llawn optimistiaeth dros geidwaid gwenyn. Bydd yn wych i geidwaid gwenyn ddod yn ôl a cheidwaid gwenyn yw’r broblem. O ran pan ydych chi’n trin nythfeydd, yna rydych chi’n atal y gwenyn rhag datblygu ymwrthedd. Ond chi hefyd yw’r ateb, drwy roi iddynt y cyfle hwnnw fe allwch chi wedyn fwynhau cadw gwenyn heb roi triniaethau. Nid oes raid ichi boeni am faroa dim mwy. Gwyddom, oddi wrth lawer o waith sy’n cael ei wneud fod colledion nythfeydd, meintiau nythfeydd, a does dim anfantais wirioneddol i hyn. Gallu anhygoel y gwenyn i addasu yw hyn. Ers degawdau bellach, rydyn ni wedi ceisio magu gwenyn sydd ag ymwrthedd i faroa, ond wyddon ni ddim beth yw’r nodweddion, y nodweddion pwysig. Ond mae’r gwenyn yn gwybod. Felly, mae’r gwenyn yn dangos inni sut i ddatrys y broblem. Maen nhw’n gwybod. Maen nhw wedi datrys y broblem yn barod. Felly, fe fydd raid inni ddal fyny a dysgu oddi wrth ein gwenyn sut i’w datrys.

 

Wel, dwi’n meddwl bod hwnnw’n nodyn gwych i orffen arno, ac yn bendant o’m safbwynt i, dwi’n meddwl bod hyn yn dweud wrthyf mai defnyddio dull rheoli plâu integredig yw’r peth iawn i’w wneud yn bendant, oherwydd fe fydd hynny yn galluogi ein gwenyn i fynegi’r nodweddion hyn a’u datblygu nhw. Ac os oes angen inni ddefnyddio triniaeth gemegol, wel drwy fonitro ein gwenyn, byddwn yn gwybod pryd mae angen defnyddio’r driniaeth honno, ac os nad oes angen inni ei defnyddio o gwbl o bosibl, ac mae hynny yn caniatáu i’n gwenyn ddatblygu a sefydlu’r nodweddion hyn oddi mewn. Felly, hoffwn orffen, Stephen, drwy ddiolch o galon ichi am roi cipolwg diddorol dros ben ar eich ymchwil ac mae’n rhoi llawenydd mawr imi wir, fod ein gwenyn yn meithrin y nodweddion hyn ac y byddant, heb os, yn dod yn offeryn pwysig yn ein cynllun i reoli faroa i’r dyfodol. Felly, diolch o galon ichi am eich amser heddiw.

Diolch yn fawr iawn ichi am roi imi’r cyfle.